User:Scotfot/sandbox: Difference between revisions

From MediaWiki
Jump to navigation Jump to search
No edit summary
No edit summary
(28 intermediate revisions by the same user not shown)
Line 1: Line 1:
{| class="wikitable"
{{NRW}}
|-
|  |[[User:Scotfot/sandbox#A|A]]
|  |[[#B]]
|  |[[#C]]
|  |[[#D]]
|  |[[#E]]
|  |[[#F]]
|  |[[#G]]
|  |[[#H]]
|  |[[#I]]
|  |[[#J]]
|  |[[#K]]
|  |[[#L]]
|  |[[#M]]
|  |[[#N]]
|  |[[#O]]
|  |[[#P]]
|  |[[#Q]]
|  |[[#R]]
|  |[[#S]]
|  |[[#T]]
|  |[[#U]]
|  |[[#V]]
|  |[[#W]]
|  |[[#X]]
|  |[[#Y]]
|  |[[#Z]]
|-
|}


[[File:Edward Greenly.png|thumb|Edward Greenly]]


== Edward Greenly (1861–1951) ==


Cofir am [[Edward Greenly D.Sc.|Edward Greenly]] yn bennaf am ei arolwg daearegol o Ynys Môn, gwaith y bu wrthi am bron pum mlynedd ar hugain o’i fywyd.


Image caption: Edward Greenly. Llun trwy garedigrwydd Terry Williams


== Edward Greenly (1861–1951) ==


Campwaith pennaf [[Edward Greenly D.Sc.|Edward Greenly]] oedd cwblhau arolwg daearegol manwl o Ynys Môn. Cyhoeddwyd ''The Geology of Anglesey'' ([https://pubs.bgs.ac.uk/publications.html?pubID=B01782 Volume 1] and [https://pubs.bgs.ac.uk/publications.html?pubID=B06824 Volume 2]) mewn dwy gyfrol yn 1919 ac yna yn 1920 fap daearegol ar y raddfa un fodfedd i’r filltir. Er bod rhannau o’r gwaith wedi’u diweddaru yn ystod y degawdau dilynol, erys ei astudiaeth yn glasur o fri rhyngwladol.


=== Mapio Môn ===


Wrth fapio ynys Môn, gwnaeth Greenly ddefnydd mawr o syniadau tectonig a ddatblygodd wrth iddo fynd i’r afael â gwaith maes cynharach yn Ucheldiroedd yr Alban. Roedd tair prif broblem yn ei wynebu: prinder brigiadau da, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol allweddol bwysig; presenoldeb creigiau gorchuddiol clytiog yn cuddio yn aml y baslawr Cyn-Gambriaidd hŷn; a phresenoldeb toriadau tectonig megis ffawtiau a chylchfaoedd croesrym a oedd yn aml yn rhwystro’r gwaith o gydberthyn gwahanol ddilyniannau o greigiau. Chwaraeodd ei wraig Annie Greenly (Barnard gynt), a oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn daeareg a diwinyddiaeth, rôl hollbwysig drwy baratoi’r mynegai i’w gyfrol.


Ganed Greenly ym Mryste ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, cyn ymuno â’r Arolwg Daearegol yn 1889. Yn gyntaf, bu gofyn iddo baratoi arolwg o Ucheldiroedd gogledd-orllewin yr Alban. Daeth yn ffrind agos ac yn gydweithiwr i [[Benjamin Neeve Peach - biographical information|Ben Peach]] yr oedd ei archwiliadau wedi bod yn gyfrwng i ddatrys adeiledd cymhleth yr Alban (gan gynnwys adnabod a sylweddoli arwyddocâd Gwthiad Moine). Rhoddodd Greenly y gorau i’w waith gyda’r Arolwg yn 1895 er mwyn iddo, o’i ben a’i bastwn ei hun. roi cychwyn ar ei arolwg o Ynys Môn.


=== Cyfraniadau pwysig i ddaeareg ===


Yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniadau pwysig i ddaeareg, cafodd Edward Greenly ei dderbyn yn aelod er anrhydedd o gymdeithasau daearegol Caeredin a Lerpwl, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Môn. Dyfarnwyd iddo Fedal Lyell, fawr ei bri, y Gymdeithas Ddaearegol yn 1920, medal Cymdeithas Ddaearegol Lerpwl yn 1933 a doethuriaeth er anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1920.


Ar y cyd â Howel Williams, cyhoeddodd [[Edward Greenly D.Sc.|Greenly]] ''Methods of Geological Surveying'' yn 1930 a’i hunangofiant ''A Hand through Time: Memories Romantic'' and ''Geological'' a ymddangosodd yn 1938. Bu farw ym Mangor yn 1951 ac yn briodol iawn fe’i claddwyd ym mynwent Llangristiolus, Ynys Môn. Mae ei fedd wedi’i gyfnodi’n Safle Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS).


[[Category:Welsh geologists]]


 
[[Category:Pioneers of the British Geological Survey]]
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
== A ==
== B ==
== C ==
== D ==
== E ==
== F ==
== G ==
== H ==
== I ==
== J ==
== K ==
== L ==
== M ==
== N ==
== O ==
== P ==
== Q ==
== R ==
== S ==
== T ==
== U ==
== V ==
== W ==
== X ==
== Y ==
== Z ==

Revision as of 20:03, 1 September 2020

© Natural Resources Wales. All rights reserved. For use contact: Natural Resources Wales
Edward Greenly

Edward Greenly (1861–1951)

Cofir am Edward Greenly yn bennaf am ei arolwg daearegol o Ynys Môn, gwaith y bu wrthi am bron pum mlynedd ar hugain o’i fywyd.

Image caption: Edward Greenly. Llun trwy garedigrwydd Terry Williams

Edward Greenly (1861–1951)

Campwaith pennaf Edward Greenly oedd cwblhau arolwg daearegol manwl o Ynys Môn. Cyhoeddwyd The Geology of Anglesey (Volume 1 and Volume 2) mewn dwy gyfrol yn 1919 ac yna yn 1920 fap daearegol ar y raddfa un fodfedd i’r filltir. Er bod rhannau o’r gwaith wedi’u diweddaru yn ystod y degawdau dilynol, erys ei astudiaeth yn glasur o fri rhyngwladol.

Mapio Môn

Wrth fapio ynys Môn, gwnaeth Greenly ddefnydd mawr o syniadau tectonig a ddatblygodd wrth iddo fynd i’r afael â gwaith maes cynharach yn Ucheldiroedd yr Alban. Roedd tair prif broblem yn ei wynebu: prinder brigiadau da, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol allweddol bwysig; presenoldeb creigiau gorchuddiol clytiog yn cuddio yn aml y baslawr Cyn-Gambriaidd hŷn; a phresenoldeb toriadau tectonig megis ffawtiau a chylchfaoedd croesrym a oedd yn aml yn rhwystro’r gwaith o gydberthyn gwahanol ddilyniannau o greigiau. Chwaraeodd ei wraig Annie Greenly (Barnard gynt), a oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn daeareg a diwinyddiaeth, rôl hollbwysig drwy baratoi’r mynegai i’w gyfrol.

Ganed Greenly ym Mryste ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, cyn ymuno â’r Arolwg Daearegol yn 1889. Yn gyntaf, bu gofyn iddo baratoi arolwg o Ucheldiroedd gogledd-orllewin yr Alban. Daeth yn ffrind agos ac yn gydweithiwr i Ben Peach yr oedd ei archwiliadau wedi bod yn gyfrwng i ddatrys adeiledd cymhleth yr Alban (gan gynnwys adnabod a sylweddoli arwyddocâd Gwthiad Moine). Rhoddodd Greenly y gorau i’w waith gyda’r Arolwg yn 1895 er mwyn iddo, o’i ben a’i bastwn ei hun. roi cychwyn ar ei arolwg o Ynys Môn.

Cyfraniadau pwysig i ddaeareg

Yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniadau pwysig i ddaeareg, cafodd Edward Greenly ei dderbyn yn aelod er anrhydedd o gymdeithasau daearegol Caeredin a Lerpwl, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Môn. Dyfarnwyd iddo Fedal Lyell, fawr ei bri, y Gymdeithas Ddaearegol yn 1920, medal Cymdeithas Ddaearegol Lerpwl yn 1933 a doethuriaeth er anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1920.

Ar y cyd â Howel Williams, cyhoeddodd Greenly Methods of Geological Surveying yn 1930 a’i hunangofiant A Hand through Time: Memories Romantic and Geological a ymddangosodd yn 1938. Bu farw ym Mangor yn 1951 ac yn briodol iawn fe’i claddwyd ym mynwent Llangristiolus, Ynys Môn. Mae ei fedd wedi’i gyfnodi’n Safle Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS).