User:Scotfot/sandbox

From MediaWiki
Revision as of 19:49, 1 September 2020 by Scotfot (talk | contribs)
Jump to navigation Jump to search
The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.
© Natural Resources Wales. All rights reserved. For use contact: Natural Resources Wales
Edward Greenly

Edward Greenly (1861–1951)

Cofir am Edward Greenly yn bennaf am ei arolwg daearegol o Ynys Môn, gwaith y bu wrthi am bron pum mlynedd ar hugain o’i fywyd.

Image caption: Edward Greenly. Llun trwy garedigrwydd Terry Williams

Edward Greenly (1861–1951)

Campwaith pennaf Edward Greenly oedd cwblhau arolwg daearegol manwl o Ynys Môn. Cyhoeddwyd The Geology of Anglesey mewn dwy gyfrol yn 1919 ac yna yn 1920 fap daearegol ar y raddfa un fodfedd i’r filltir. Er bod rhannau o’r gwaith wedi’u diweddaru yn ystod y degawdau dilynol, erys ei astudiaeth yn glasur o fri rhyngwladol.

Mapio Môn

Wrth fapio ynys Môn, gwnaeth Greenly ddefnydd mawr o syniadau tectonig a ddatblygodd wrth iddo fynd i’r afael â gwaith maes cynharach yn Ucheldiroedd yr Alban. Roedd tair prif broblem yn ei wynebu: prinder brigiadau da, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol allweddol bwysig; presenoldeb creigiau gorchuddiol clytiog yn cuddio yn aml y baslawr Cyn-Gambriaidd hŷn; a phresenoldeb toriadau tectonig megis ffawtiau a chylchfaoedd croesrym a oedd yn aml yn rhwystro’r gwaith o gydberthyn gwahanol ddilyniannau o greigiau. Chwaraeodd ei wraig Annie Greenly (Barnard gynt), a oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn daeareg a diwinyddiaeth, rôl hollbwysig drwy baratoi’r mynegai i’w gyfrol.

Ganed Greenly ym Mryste ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, cyn ymuno â’r Arolwg Daearegol yn 1889. Yn gyntaf, bu gofyn iddo baratoi arolwg o Ucheldiroedd gogledd-orllewin yr Alban. Daeth yn ffrind agos ac yn gydweithiwr i Ben Peach yr oedd ei archwiliadau wedi bod yn gyfrwng i ddatrys adeiledd cymhleth yr Alban (gan gynnwys adnabod a sylweddoli arwyddocâd Gwthiad Moine). Rhoddodd Greenly y gorau i’w waith gyda’r Arolwg yn 1895 er mwyn iddo, o’i ben a’i bastwn ei hun. roi cychwyn ar ei arolwg o Ynys Môn.

Cyfraniadau pwysig i ddaeareg

Yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniadau pwysig i ddaeareg, cafodd Edward Greenly ei dderbyn yn aelod er anrhydedd o gymdeithasau daearegol Caeredin a Lerpwl, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Môn. Dyfarnwyd iddo Fedal Lyell, fawr ei bri, y Gymdeithas Ddaearegol yn 1920, medal Cymdeithas Ddaearegol Lerpwl yn 1933 a doethuriaeth er anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1920.

Ar y cyd â Howel Williams, cyhoeddodd Greenly Methods of Geological Surveying yn 1930 a’i hunangofiant A Hand through Time: Memories Romantic and Geological a ymddangosodd yn 1938. Bu farw ym Mangor yn 1951 ac yn briodol iawn fe’i claddwyd ym mynwent Llangristiolus, Ynys Môn. Mae ei fedd wedi’i gyfnodi’n Safle Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS).